P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a’u cynnwys mewn targedau sero net

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dylan Clarke, ar ôl casglu cyfanswm o 339 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Cynnwys yr holl allyriadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau sector cyhoeddus yn nhargedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru a’i gwneud yn orfodol i holl sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau buddsoddiadau (cwmpas 3).

Nod awdurdodau lleol yw sero net erbyn 2030, ond maent yn buddsoddi mewn cwmnïau sy’n bwriadu echdynnu tanwyddau ffosil am ddegawdau.

Nid yw’n ofynnol ar hyn o bryd i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau! Mae’n rhaid cael gwared ar y ddihangfa hon.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Esboniad cryno o allyriadau cwmpas 3.

Cwmpas 1 – allyriadau uniongyrchol o ffynonellau y mae sefydliad sector cyhoeddus yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.

Cwmpas 2 – allyriadau anuniongyrchol o drydan, ager, gwres ac awyru a brynir.

Cwmpas 3 – yr holl allyriadau eraill sy’n gysylltiedig â gweithgareddau sefydliad, gan gynnwys buddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil.

Mae cynnwys rhai allyriadau cwmpas 3 o fen y ffin weithredol ond eithrio allyriadau yn anghyson â chyflawni sero net gwirioneddol erbyn 2030 ac yn tanseilio ymdrechion datgarboneiddio’r Llywodraeth. Gweler tudalen 14, tabl 3 yma.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-05/canllaw-sector-cyhoeddus-cymru-ar-gyfer-adrodd-ar-garbon-sero-net_0.pdf

Drwy gynnwys pensiynau a buddsoddiadau yn nhargedau’r Llywodraeth, bydd gan y sector cyhoeddus yr hyblygrwydd i benderfynu eu hunain beth i’w wneud am yr allyriadau cwmpas 3 anuniongyrchol hyn heb eu hanwybyddu.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyfor Meirionnydd

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru